Olaudah Equiano
Olaudah Equiano | |
---|---|
Ganwyd | c. 1745 Isseke |
Bu farw | 31 Mawrth 1797 Dinas Westminster |
Galwedigaeth | llenor, hunangofiannydd, barber, masnachwr, actor |
Adnabyddus am | The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano jr the third |
Arddull | hunangofiant, sylwebaeth gymdeithasol |
Plant | Joanna Vassa |
Affricanwr a gafodd ei werthu'n gaethwas ac yn hwyrach ei ryddhau oedd Olaudah Equiano (tua 1745 – 31 Mawrth 1797). Ysgrifennodd gofiant, The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano; or, Gustavus Vassa, the African, Written by Himself (1789), oedd yn ddylanwadol yn y mudiad diddymiaeth i wahardd y fasnach gaethweision.
Ansicr yw ei fan geni. Honnodd Equiano iddo gael ei eni yn nhref o'r enw Essaka yng Ngorllewin Affrica, sydd o bosib yn Isseke yn Nigeria. Yn ei lyfr mae'n disgrifio cael ei gipio pan oedd yn 11 oed - i India'r Gorllewin ac yna Virginia. Mae rhai ysgolheigion modern yn credu iddo gael ei eni yng Ngogledd America. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn Stryd Paddington, Middlesex, ble y bu farw.[1]
Ym mis Tachwedd 1996 sefydlwyd Cymdeithas Equiano yn Llundain gyda'r nod o hyrwyddo gwybodaeth amdano ac am ei waith.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Vincent Carretta, Equiano, the African: Biography of a Self-made Man (University of Georgia Press, 2005), tud. 365.
- ↑ Equiano Society website